Cynhadledd V - Dynameg Môr a Thwyni Afon
Gogledd Cymru: 4 - 6 Ebrill 2016
Rydym yn eich croesawu’n gynnes i wefan MARIDV, y 5ed yn y gyfres o gynadleddau rhyngwladol sy’n gysylltiedig â Dynameg Môr a Thwyni Afon.
Mae Gwasanaeth Hydrograffeg ac Eigioneg Forol Ffrainc (SHOM) wedi arwain y gyfres ar ôl ei lansiad ym 1998 yn ystod cyfarfod o Gomisiwn Hydrograffig Môr y Gogledd. Yn dilyn llwyddiannau Lille (Ffrainc), Twente (yr Iseldiroedd), Leeds (DU) a Bruges (Gwlad Belg), cynhelir MARIDV yn rhanbarth rhyfeddol Mynyddoedd Eryri ac Arfordir Gogledd Cymru (DU) ar 4-6 Ebrill 2016. Cyhoeddir yr union leoliad cyn hir.
Ers ei chychwyn, mae’r gynhadledd wedi cyfuno arbenigedd o amrywiaeth o ddisgyblaethau, yn cynnwys daeareg, peirianneg, hydrograffeg a bioleg, a chanlyniadau’n deillio o arsylwadau, modelu ac arbrofion.
Themâu’r Gynhadledd
- Esblygiad geomorffolegol ffurfiau gwely’r môr.
- Esblygiad gwaddodol ffurfiau gwely’r môr.
- Biogeomorffoleg.
- Rheoli’r amgylchedd.
Mae’r gynhadledd yn agored i unrhyw weithwyr proffesiynol a budd-ddeiliaid sy’n ymwneud â dynameg ffurfiau gwely’r môr, a bydd yn rhoi mynediad at wyddoniaeth flaengar ac enghreifftiau o fywyd go-iawn. Ceir darpariaethau rhwydweithio gyda gwyddonwyr, ymarferwyr, diwydiant, ymgynghorwyr polisi a rheolwyr o bedwar ban y byd.
Bydd MARIDV yn cynnig grantiau teithio i fyfyrwyr ac yn trefnu bod gwobrau ar gael i wyddonwyr ifainc am eu cyfraniadau o safon uchel at y cyfarfod.